Cyngor Cymuned Cerrigydrudion
Croeso i wefan Cyngor Cymuned Cerrig-y-Drudion. Lleolir y gymuned ym mhen ucha’ Sir Conwy, yn ddaearyddol y gymuned fwya’ o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’n ardal o harddwch naturiol gyda’r nifer o siaradwyr Cymraeg o ran canran ymysg yr uchaf yng Nghymru.
Mae’r pentref ar fin priffordd yr A5 ac o ddeutu 900 troedfedd yn uwch na’r mor. Mae’r gymuned yn ymyl Cronfa Ddŵr yr Alwen a hefyd Llyn Brenig sydd yn denu miloedd o ymwelwyr i feicio, cerdded, hwylio neu bysgota.
Saif mynydd Hiraethog i’r gogledd, ardal eang o weundir yn llawn hanesion a chwedloniaeth gwerin gymreig.