Cyngor Cymuned Cerrigydrudion

Cofnodion

Cyngor Cymuned Cerrig y Drudion

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Mawrth 2024

 

Yn bresennol oedd Maria Roberts, Guto Jones, Menai Hughes, John Jones, Dyfan Jones, Einion Edwards, Ffuon Williams, Prys Ellis (cadeirydd), Llio Morris a Cyg Gwennol Ellis.

Datgan diddordeb ir AGENDA   Einion Edwards yn datgan diddordeb ir cais cynllunio ac bydd yn ymadel ar ystafell er mwyn trafod y cais.  Roedd y Cynghorydd Sir Gwennol Ellis yn bresennol yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth cais cynllunio.

Darllenwyd y cofnodion blaenorol ac fe’u harwyddwyd fel rhai cywir.

Gohebiaeth

[1]  Ambiwlans Awyr  - llythyr diolch am ein cyfraniad.

[1.1]  Barbara Baldon  e bost yn gofyn os oeddem am i Robin Millar ddod atom i drafod y cais Astudiaethau Dichnoldeb  pasiwyd iw adael.

[1.2]  Cyngor Sir Conwy  Cynllun Toiledau Cymunedol   - pasiwyd ei adael gan drafod nes ymlaen am ein toiledau cyhoeddus sydd yn Ngherrig yn Drudion.

[1.3]  Scottish Power   mewn credid  £164.40

[1.4]  Cyngor Sir Conwy  - cynllun chwarae allan haf 2024 – llythyr yn gofyn am gyfraniad, pasiwyd ei adael gan ein bod yn barod yn cefnogi cynllun arall yn yr ganolfan.

[1.5]  Urdd gobaith Cymru  - llythyr diolch am ein cyfraniad.

[1.6]  Jessica Williams  - yn awyddus i ddod ir Gymuned i siarad ac gosod stondin  awgymwyd iddi bod yn son wrth y Sioe os oes ganddynt ddiddordeb ac Mudiad Ffermwyr Ifanc.

[1.7] Ymweliad a Marc Roberts  - yn Dilyn ymweliad ar pentref yn ddiweddar cawsom adroddiad – pawb yn gytun i gymeradwyo yr adroddiad ac i gario  mlaen ir cam nesaf.  Cawfwyd anfoneb hefyd gan Marc iw dalu erbyn diwedd mis Mawrth  £1,242.19 (un rhan o bedwar) pasiwyd iw dalu.

[1.8]  Emyr Mortimer  wedi derbyn £500 am heirio yr ystafell plwyf ir gynnal syrgeri bore Iau.

[1.9]  Ffioedd y fynwent   wedi derbyn  tal am garreg fedd y diweddar Robert Hicks  £25.00  hefyd

Bed Newydd ir diweddar Thomas Peter Williams £400 ac tori new ar garreg fedd y diweddar Brynle Owen Roberts £15.00.

[2]  Gair gan y Cyn Gwennol Ellis   dywedodd bod gwaith yn mynd ymlaen i adnewyddu y toiled yn yr Hwb Uwchaled.  Dywedodd bod ymgynghoriad yn mlaen nawr am y gwasanaeth y llyfrgelloedd  cymunedol ac yn annog bawb i lewni ar y wefan.  Dywedodd bod wedi cyfarfod a gweithiwr Cyngor Sir ynghyd a clerc i ymweld a safle y toiledau yn Ngherrig y Drudion, roeddynt yn edrych yn fler ac bod tystiolaeth o fandeleiddio wedi mynd ymlaen a dyma pa ham roeddynt ar gau. Trafodwyd i wahodd  Garry Willaims atom i weld y toiledau.

[2.1]  Cyngor Sir Conwy   anfoneb treth am y flwyddyn   £520.38 iw dalu gyda DD yn fisol.

[2.2]  John Jones  - anfoneb am osod clo ar giat y cae chwarae, £22.93 pasiwyd iw dalu.

[2.3]  BCUHB  brechiadau covid   am logi yst plwyf ddwy waith yn mis Mai  3/5/24 a 10/5/24.

[2.4]  Cae Chwarae   - cafwyd adroddiad yn ol o Gonwy bod dwy fainc yn y cae chwarae ddim yn sownd pasiwyd i gael cyfarfod yn y cae chwarae ar ddechrau ein cyfarfod yn mis Mai.

[2.5]  Bryson Recycling   mae’r clerc di talu am 4 bin brown gwastraff gwyrdd am y flwyddyn sef £100.00 pasiwyd i dalu ir clerc.

[2.6]  Gwrych y fynwent  - mae Glyn Lloyd wedi bod yn brysur yn tori gwrych yn y fynwent pasiwyd i gefnogi ei gais i heirio ‘chippar’ i gael gwared or gwastraff.  Cytunwyd hefyd gofyn iddo fuasai ganddo ddiddordeb mewn tori coed sydd wedi marw yn clawdd y ffordd.

[2.7]  Cyngor Sir Conwy  Daeth cais cynllunio i roi estyniad ac addasiadau i annedd Tan y Fron, LLys Tawel i Mr a Mrs Harry a Marial Guttridge trafodwyd ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad ir cais gan nodi ein bod yn cefnogi ac yn ymfalchio i weld teuluoedd ifanc sydd am aros yn yr ardal.

[2.8] Un llais Cymru   Tal aelodaeth  £142.00 pasiwyd iw dalu.

[2.9]  Cyngor Sir Conwy   cafwyd cais gan Tim Ballam inni dderbyn arian iw gadw yn nghyfrif y Cyngor er mwyn cynnal sesiynnau chwaraeon yn Ngherrig yn Drudion,  pasiwyd i dderbyn cyngor Unllais cymu ar hyn i weld os oedd yn gyfreithlon inni ei dderbyn.

[3]  Cyngor Sir Conwy   daeth sylw i law am dyllau wrth fynnedfa Cae Llwyd  y clerc i gysylltu ar Sir.

[3.1]   Bute Energy   cafwyd cais gan Eluned Lewis i ddod atom ir Cyngor i siarad am yr ochr ariannol ir Fferm wynt Moel Chwa, y clerc i wneud trefniadau iddi ddod gan gynnwys gwahoddiad efallai i Cyngor Cymuned Llangwm ddod hefyd.

[3.2]  Emyr Mortimer   mae’r cyfrifydd wedi cytuno i wneud y gwaith archwilio mewnol ir Cyngor Cymuned ac hefyd i wneud y cyflogau.