Cyngor Cymuned Cerrigydrudion

Cofnodion

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13eg o Ionawr 2025

Presennol oedd Menai Hughes, Dyfan Jones, Prys Ellis, Maria Roberts, John Jones, Ffuon Williams, Llio Morris (cadeirydd) a Cyng Gwennol Ellis. Cafwyd ymddiheuriadau gan Guto Jones a Einion Edwards.

Arwyddwyd y cofnodion blaenorol fel rhai cywir.

Neb yn datgan diddordeb ir agenda.

Gohebiaeth

[1]  Cyngor Conwy – Llythyr yn gofyn am gyfraniad ir Cynllun Chwarae yr haf 2025 – bydd hwn yn cael ei ariannu drwy arian sydd wedi ei gyfrannu ir Ganolfan Uwchaled.

[1.1]  Deffib Store – anfoneb pro foma am fatries a padiau i ddau difibiliwr yr ardal pasiwyd iw dalu.  £405.60.

[1.2]  Cyngor Conwy  - adroddiad ynni Ystafell y Plwyf – nid oes angen gweithredu.

[1.3]  Plas Hafod y Maidd – llythyr o ddiolch am ein cyfraniad o £80.00 tuag at costau Grotto Sion Corn.

[1.4]  Cronfa Hwb Cynnes – mae grant o £720.00 wedi cael ei dyrannu ir Ganolfan Glyd yn y Llew Gwyn am y 3 mis nesa.  Byddent yn cynnig cawl a brechdan a chacen o 12.00 – 4.00. ar ddydd mercher.

[1.5]  Dwr Cymru  - anfoneb   £16.79 wedi ei dalu DD

[1.6]  Scottish Power  - anfoneb  £31.02  wedi ei dalu  DD

[1.7]  Carol Humphreys – anfoneb am flodau ir potiau o amgylch y pentre  £22.40.  (arian gan Ym Cerrig wedi ei dderbyn tuag at hyn).

[1.8}  Cyngor Sir Conwy  - Precept  ar ol trafod y amcanganrif gwariant ar hyn y flwyddyn penodwyd gofyn am swm o £12,000.00.

[1.9]  Ffioedd claddu  -  £400.00 y diweddar Hefin Roberts.

[2]  Citizen Advice  -  £60.00 tal am logi Yst Plwyf.

[2.1]  Cyngor Sir Conwy – precept olaf 2024  sef  - £3,333.00.

[2.2]  Nick Ferguson  -  anfoneb am y wefan  £60.00.

[2.3]  Wyn Jones – anfoneb am ddal tyrchod yn y fynwent  £20.00.

[2.4]  Dyfan Jones – anfoneb am oleuadau dolig ir pentref  £44.98.

[2.5]  Wi fi ir yst plwyf – pasiwyd gofyn i Ian Courtney Whiley ddod i ymweld a rhoi Cyngor.

[2.6]  Ambiwlans Awyr Cymru – llythyr yn gofyn am gyfraniad  - pasiwyd ei adael tan y cyfarfod nesaf.

[2.7]  Adroddiad y Cyngn Gwennol Ellis – toiledau mae y Cyngor Sir yn awyddus i ddod i siarad efo ni yn ystod y dydd, os nad ydynt yn fodlon dod draw mi fydd rhaid cael cyfarfod teams y clerc i gysylltu efo’r Sir.

Sul y Cofio – roedd pawb yn un frydol bod rhaid cael gwell arweiniad ir gwasanaeth yma, pasiwyd ein bod yn trafod i gynnal cyfarfod i drefnnu a chael cynyrchiolaeth o plwyfion eraill hefyd.

Cartrefi Conwy – deallwn bod arwydd yn cael ei ddangos ar y tai/bunglos sydd yn wag i hysbysebu ei bod ar rent am fis ac yna os ddim yn llwyddiannus byddant yn cael ei gwerthu.

[2.8] Bws Llew Jones – deallwn fod y bws yn dal i drafeilio ar stryd Tan Llan, ac hefyd wedi ei defnyddio pan oedd eira a rhew ar adegau beryglus iawn lle roedd rhaid iddo ddreifio’ n ol ir ffordd fawr gan ei fod methu mynd i fynnu’r allt.

[2.9]  Cae Bryn – deallwn fod coeden yn gwyro i lwybr wrth yr ysgol – pasiwyd i gysylltu efo Emyr iw chodi neu iw thori.

[3]  Cyngor Conwy  - mae gulley ffordd ger Trem Eryri wedi  blocio, clerc i hysbysu’r Cyngor.